Cyfarfod   Ymgynghoriad ar y Mesur ADY   -    Felinfach 6/2/17

CAAAau ysgolion cynradd ysgolion canol/de Ceredigion –

 

10 Nod y Mesur

·         Cwestiynu parthed pryderon beth fydd yn digwydd fyny i 25ain oed. Eu bod yn medru cael mynediad i Addysg.

·         6 -  Pryderon bod yr hawl i fynd at Dribiwnlys yn mynd i fod ar draws yr ystod. Cyfleoedd Tribiwnlys yn mynd i fod yn ehangach. Nid y disgyblion mwyaf anghenus sydd/bydd yn mynd i dribiwnlys.

 

Diffiniad rôl yr ALNCo  

·         Cwestiynu am eglurder y rôl. (Dim ond y disgyblion AAA sydd yn cael eu dal ).

·         Gweithdai yn cael eu cynnal ym Mawrth – rôl yr ALNCo (Expert group)

·         Cwesitynu statws disgyblion MA+T o dan y mesur? Dylai rhain cael eu cwmpasu gan yr ochr fugeiliol?

 

Where a young person is not attending school – LA would be responsible to provide

·         Grey area mawr– mae angen eglurder MAWR ar hwn.

·         Consyrn mawr bod cyllid yr ALl yn gallu cael ei dynnu allan o ysgolion i gyllido Addysg gartref?

 

IDP’s

Cyfrifoldeb yn trosglwyddo o’r Ysgol i’r ALl

·         Cydweithio agos rhwng yr awdurdod ag ysgolion fel ag y mae.

·         Consyrn parthed rheini yn gallu pwsio bod y gyfrifoldeb dros IDP yn trosglwyddo i’r All

·         Adolygu CDU – statudol gyda’r adolygiad unwaith y flwyddyn neu ‘On request’

·         Angen  diffiniad o ‘or on request’ – hyn yn peri gofid mawr o ran llwyth gwiath i’r ALNCo

 

0-25  Pwynt 1

·         Mae’r ffaith bod yn cynnwys Llywodraethwyryn codi pryderon parthed rôl y Llywodraethwyr – diffyg arbenigedd yn y Corff Llywodraethwyr.

·         Cwestiynu ar ba sail mae’r ysgol yn gwneud penderfyniad o ran adnabod ADY – angen meini prawf er mwyn bod yn gyfartal ar draws ysgolion ac ALl. 

·         Rôl DECLO  yn allweddol yma. (Ar hyn o bryd mae staff meddygol yn awgrymu bod cymorth 1:1 yn addas er mai penderfyniad staff addysg dylai hyn fod – yn codi disgwyliadau rhieni mewn ffordd anffodus).

·         Cyfrifoldeb yn dod i’r ALl o’r Llywodraeth ar gyfer ôl 16 – consyrn bod dim rôl ar gyfer arbenigwyr Careers Wales yn y cynlluniau yma.

 

Datblygu’r gweithlu

·         Datblygu sgiliau craidd yn dod i fewn i hyfforddiant ANG – mae angen mwy o gyfartaledd ar draws profiadau/hyfforddiant ANG. Ni does digon o ddealltwriaeth gan rai ar hyn o bryd.

·         Ydyw hyn yn ymarferol?  - mewn ysgolion bach gwledig ble mae’r athrawon yn dysgu ac yn bennaeth yn ogystal â gwneud y rôl SENCO – ni fydd amser ganddynt i wneud hyfforddiant ar lefel Masters?

·         Pryderon ynglŷn â’r llwyth gwaith ar gyfer yr ALNCO mewn ysgolion mawr (3-19) lle mae’r nifer o ddisgyblion efo CAU nawr yn fawr.

·         Y disgwyliad bod yr ALNCO yn aelod o’r uwch dim rheoli yn peri gofid. Byddai cymryd cyfrifoldebau ychwanegol i rôl yr ALNCO yn anodd o ran gwneud cyfiawnder â’r holl gyfrifoldebau. Tuedd o fod yn rôl arweinyddol ar draws yr ysgol yn ogystal ag arwain ar ADY.

 

Unrhyw gwestiwn arall?

·         Consyrn parthed y cyllid – cychwyn y cyllid ac yna yn ei dynnu ffwrdd , ond y disgwyliadau yn parhau.

·         A fydd disgyblion gyda sgiliau sylfaenol llythrennedd/rhifedd yn cael eu adnabod gyda ADY neu beidio? – angen eglurdeb ar y meini prawf – byddai’r ateb i’r cwestiwn yma yn cael effaith enfawr ar llwyth gwaith yr ALNCo.

·         Oes modd o osod disgyblion SGILIAU SYLFAENOL – o dan adain tim llythrennedd/rhifedd yr ysgolion yn hytrach nag ar y gofrestr AAA? - y disgyblion sydd angen ychydig o hwb dros dro yn unig.

·         Trafodwyd y neges o adnabyddiaeth o angen y disgybl felly yn ADY. Angen CRITERIA pendant.